Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Communities, Equality and Local Government Committee

 

 

 

 

 

 

 

Bae Caerdydd / Cardiff Bay

 Caerdydd / Cardiff

CF99 1NA

                                                          

26 Gorffennaf 2013                            

 

 

 

 

 

Annwyl Gyfaill

 

Ymchwiliad i'r cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth leol

 

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cynnal ymchwiliad byr i'r cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth leol. Er mwyn helpu gyda’i ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y pwnc hwn.

 

Mae'r Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad hwn yng nghyd-destun:

¡  polisi Llywodraeth Cymru dros sawl blwyddyn i annog rhagor o gydweithio wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus;

¡  y gwaith presennol o weithredu Cytundeb Simpson; ac

¡  adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus y mae ei ddisgwylcyn diwedd 2013.

Pwrpas yr ymchwiliad yw edrych ar i ba raddau y mae llywodraeth leol yn cydweithio a gwerthuso llwyddiant y polisi hwn o ran arbedion a darparu gwasanaethau.

O ganlyniad i gyfyngiadau amser, bydd hwn yn ymchwiliad byr, gan gasglu barn a phrofiadau ffigyrau a sefydliadau allweddol mewn llywodraeth leol yng Nghymru ar y pwnc hwn.

 

/.....

 

 

 

Nid oes bwriad ar hyn o bryd i edrych yn fanwl ar astudiaethau achos neu faterion lleol, ond, yn hytrach, i gael dealltwriaeth holistig o'r modd y mae'r agenda cydweithio yn datblygu ar lawr gwlad. Drwy hynny, mae gobaith y bydd y Pwyllgor yn gallu llunio barn am effeithiolrwydd y cydweithio sy’n digwydd ar lefel llywodraeth leol cyn y bydd y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyhoeddi ei adroddiad ddiwedd 2013.

Cylch Gorchwyl

Edrych ar y cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth leol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar:

 

·         i ba raddau y cafodd agenda cydweithio Llywodraeth Cymru ei datblygu mewn awdurdodau lleol;

 

·         y rhwystrau strwythurol, gwleidyddol ac ymarferol i gydweithio llwyddiannus;

 

·         y modelau llywodraethu ac atebolrwydd a fabwysiedir pan fydd cydweithio'n digwydd; a'r

 

·         costau a'r manteision cyffredinol o gydweithio i ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu'n Saesneg gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.

 

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl fel y’i nodir uchod. 

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig (ni ddylai fod ar ffurf dogfen PDF yn ddelfrydol) i Pwyllgor.CCLLL@cymru.gov.uk.

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

 

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn Dydd Gwener 6 Medi 2013.  Bydd cyfnod yr ymgynghoriad yn fyr oherwydd bod ffocws y cylch gorchwyl yn gul ac oherwydd bod yr amserlen gyfatebol ar gyfer yr ymchwiliad yn un fer. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn ymlaen at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr adolygiad. Bydd copi

o’r llythyr hwn yn cael ei roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

 

 

 

/.....

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i Bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth yr ystyrir ei bod yn ddata personol.

 

Os cawn gais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth y DU, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r wybodaeth a gawsom gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich cyfrifoldeb chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

Yn gywir

 

 

Christine Chapman AC

Cadeirydd